Cymorth wedi'i adeiladu o'ch cwmpas chi
Dyddiau da, dyddiau gwael a phopeth yn y canol. Mae ein Tîm Cymorth Arbenigol yma i'ch helpu i ymdopi â phopeth.
Mae ein hymagwedd dosturiol o gynnig gofal arbenigol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhoi’r sefydlogrwydd i chi fyw’r bywyd rydych chi eisiau ei fyw.
Rydyn ni’n dweud ei fod yn ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ gan ei fod mor unigryw â chi’ch hun, ac wedi’i gynllunio o amgylch eich anghenion unigryw. Y gefnogaeth iawn, ar yr adeg iawn, yn y ffordd orau i chi.
Beth mae cymorth arbenigol yn ei olygu?
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai Cymorth Arbenigol gynnwys cymysgedd o Seicoleg, Therapi Galwedigaethol, Therapi Lleferydd ac Iaith a Chymorth Ymddygiad Cadarnhaol.
Mae’n ystyried anghenion iechyd meddwl penodol a thrawma, a lle y bo’n berthnasol mae’n cael ei addasu ar gyfer niwroamrywiaeth.
Model cymorth
Mae gan ein model dair haen wahanol o gymorth, fel y gallwn ni gynnig y gofal iawn ar yr adeg iawn. Eich anghenion chi yw’r brif flaenoriaeth bob amser.
Haen 1
Y sylfaen ar gyfer ein holl Gymorth a Therapi Arbenigol. Mae ein tîm yn deall ac yn cymhwyso egwyddorion Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) craidd i hyrwyddo’r dewisiadau a’r cyfleoedd bywyd gorau. Yn Haen 1, rydyn ni’n canolbwyntio ar eich cryfderau a nodweddion cadarnhaol i wella ansawdd eich bywyd.
Haen 2
Bydd ein tîm yn cyd-ddylunio Cynllun Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol neu Gynllun Gweithredu Adfer Lles, gan ganolbwyntio ar nodau, adeiladu sgiliau ac ymyriadau wedi’u targedu sy’n benodol i’ch dymuniadau a’ch anghenion unigol. Yn Haen 2 rydyn ni hefyd yn cynnal Adolygiadau Gwasanaeth Cyfnodol i asesu pa mor dda ac effeithiol rydyn ni’n cyflwyno’r Model PBS i chi.
Tier 3
We also provide Crisis Intervention and Intensive Support for anyone who needs it. We give timely, expert help and advice to colleagues and people drawing on our support, ensuring the very best care at all times.
Offer Therapiwtig
Seicoleg
Mae seicoleg yn hybu lles emosiynol, twf personol ac iechyd meddwl cadarnhaol trwy ddealltwriaeth ddyfnach o’ch meddyliau, eich teimladau a’ch gweithredoedd. Yn hanfodol, rydyn ni’n eich helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi ymarferol ar gyfer adegau pan mae pethau’n teimlo’n anodd.
Therapi Galwedigaethol
Weithiau mae angen ychydig o gymorth ychwanegol ar bawb gyda sgiliau a hyder ar gyfer bywyd bob dydd. Trwy ddatblygu’r rhain, gall Therapi Galwedigaethol eich helpu i deimlo’n fwy hyderus, annibynnol a chyfforddus yn y bywyd rydych chi eisiau ei fyw.
Therapi Iaith a Lleferydd
Pan allwch chi fynegi eich hun, rydych chi’n fwy rhydd i fod yn chi’ch hun. Mae’r math hwn o therapi wrth law i gefnogi cyfathrebu, iaith, lleferydd a llyncu, gan eich helpu i ddweud mwy, cysylltu mwy a gwneud mwy.
Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol
Mae hyn yn canolbwyntio ar ddewisiadau cadarnhaol a strategaethau ymarferol sy’n gwneud i chi deimlo’n fwy diogel, hapus a sefydlog. O weithio ar beth sydd eisoes wedi digwydd neu gynllunio’r cam nesaf, mae eich cefnogaeth bob amser yn cyd-fynd â beth sydd ei angen arnoch chi, pan mae ei angen arnoch chi.
Sut byddwch chi’n elwa?
Mae Cymorth Arbenigol yn ymwneud â gwella’ch lles o ddydd i ddydd, yn ogystal â’ch helpu chi trwy gyfnodau o drallod i deimlo’n ddiogel. Byddwch chi’n teimlo bod pobl yn poeni amdanoch chi ac yn eich deall.
Mae grymuso yn flaenoriaeth fawr. Ein nod yw eich helpu i adeiladu’r sgiliau bywyd i barhau i ffynnu pan fydd pethau’n mynd yn dda, a gwella a gwella wrth ddelio ag amseroedd anodd pan fyddan nhw’n codi.
Ond dydych chi byth ar eich pen eich hun. Gan ei fod yn wasanaeth mewnol yma, mae Cymorth Arbenigol bob amser wrth law i gydgysylltu â’ch tîm gofal rheolaidd. Dim rhestrau aros hir y GIG – gallwch chi wneud defnydd o’r cymorth ychwanegol unrhyw bryd.
Ym mhrofiadau pobl sy’n defnyddio ein cefnogaeth, gall ansawdd a hawster yr arbenigedd hwn ddod â sefydlogrwydd a thawelwch meddwl sy’n newid bywydau.
Sut mae Cymorth Arbenigol yn gweithio?
Rydych chi’n adeiladu bond o ymddiriedaeth â’ch tîm gofal, sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel, felly byddan nhw bob amser wrth wraidd y gefnogaeth rydych chi’n ei chael gennym ni.
Mae ein harbenigwyr yma i roi arbenigedd ac arweiniad yn ôl yr angen.
I bob pwrpas, maen nhw’n cefnogi’ch tîm gofal i’ch cefnogi chi. Felly, er na fyddwch chi bob amser yn cwrdd â’n harbenigwyr, chi bob amser yw’r un i elwa o’u gwaith.
Ynglŷn â Choice Care
O’n dyddiau cynharaf, rydyn ni wedi bod yn falch o gefnogi pobl yn dosturiol i fyw bywydau hapus, bodlon, yn rhywle maen nhw’n ei alw’n gartref.
Heddiw, ni yw un o’r darparwyr gofal arbenigol mwyaf ac uchaf ei barch yn y DU i bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl – wedi’i adeiladu ar gysondeb, tosturi ac ymrwymiad diwyro i helpu pobl i ffynnu.
Ynglŷn â Choice Care
O’n dyddiau cynharaf, rydyn ni wedi bod yn falch o gefnogi pobl yn dosturiol i fyw bywydau hapus, bodlon, yn rhywle maen nhw’n ei alw’n gartref.
Heddiw, ni yw un o’r darparwyr gofal arbenigol mwyaf ac uchaf ei barch yn y DU i bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl – wedi’i adeiladu ar gysondeb, tosturi ac ymrwymiad diwyro i helpu pobl i ffynnu.