Gweithio gyda Theuluoedd
Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda theuluoedd o'r diwrnod cyntaf, gan wrando, cyfathrebu'n agored a gwneud yn siŵr mai eich anwyliaid sydd bob amser yn dod yn gyntaf.
Siarter Teulu Choice
Mae ein Siarter Teulu yn addewid ac ymrwymiad ar y cyd i gydweithio, tryloywder a pharch, gyda budd pennaf eich anwylyd wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae’n nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i roi eich anwylyd yn gyntaf, cadw cyfathrebu’n agored, a dathlu’r pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. O sgyrsiau gonest ac adborth agored i wneud penderfyniadau ar y cyd a nodi’r hyn rydyn ni’n addo ei wneud, hyd yn oed pan nad yw pethau’n mynd yn ôl y bwriad.