Dyma lle mae pobl yn ffynnu

Mae anghenion cymorth pawb yn wahanol. Ond eto, mae nod terfynol ein cefnogaeth bob amser yr un peth: eich helpu chi i ffynnu wrth fyw’r bywyd rydych chi eisiau ei fyw.

Rydyn ni wedi tynnu ar leisiau a phrofiadau ar draws cymuned Choice, yn ogystal ag ymchwil allanol, i ddatblygu fframwaith ar gyfer bywydau iach, hapus. Rydyn ni’n ei alw’n ‘Ffynnu yn Choice’ ac mae’n nodi’r chwe blaenoriaeth ar gyfer y gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig.

Dyma sut rydyn ni’n credu y dylai gofal gwych deimlo.

1

Byw mewn lle rydyn ni'n ei alw'n gartref

Mae cartref yn golygu cysur, diogelwch, preifatrwydd a phersonoliaeth, i gyd yn yr un lle. Felly mae ond yn iawn eich bod chi’n cael penderfynu ar y pethau sy’n gwneud i’ch cartref deimlo fel cartref.

Y dodrefn, y lliwiau a’r addurniadau rydych chi’n eu hoffi. Clustogau clyd ar eich gwely a’ch hoff luniau ar y waliau. Anifeiliaid anwes y tŷ ac offer cartref. Pwy rydych chi’n eu gwahodd i ymweld, a phryd. Eich lle chi, eich dewisiadau chi.

2

Byw’r bywydau rydyn ni eisiau eu byw

Ein diddordebau ni sy’n ein gwneud ni’n ni. Ein nodau ni sy’n dangos pwy y gallen ni fod. Trwy gefnogi’r ddau, rydyn ni’n eich cefnogi i fynd ar drywydd yr hyn sy’n bwysig i chi, yn eich bywyd chi.

Efallai eich bod chi eisiau mynd i’r coleg neu gael swydd rydych chi’n ei charu; efallai bod yna hobi rydych chi bob amser wedi bod eisiau rhoi cynnig arno. Rydyn ni yma i gynnig anogaeth, cyngor a chefnogaeth wrth i chi gynllunio’ch ffordd i’ch bywyd gorau. Mae hynny’n rhywbeth y gallwn ni gyd ymfalchïo ynddo.

3

Wedi ein hamgylchynu gan bobl rydyn ni'n ymddiried ynddynt

Gyda’r bobl iawn o’n cwmpas, rydyn ni’n teimlo’n rhydd i fod yn ni ein hunain ac yn ddiogel i roi cynnig ar bethau newydd. Dyna pam fod perthnasoedd iach wrth wraidd ein fframwaith Ffynnu.

Rydyn ni’n cefnogi amser gyda’ch ffrindiau a theulu, yn ogystal ag agor drysau i gyfeillgarwch newydd. Ac yno yng nghanol eich cylch ymddiriedaeth mae eich tîm cymorth, y gallwch chi ddibynnu arnynt 100% i fod ar eich ochr chi ac yn eich cornel chi.

4

Deall a chael eich deall

Rydyn ni i gyd yn teimlo gwerthfawrogiad a pharch pan rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n cael ein clywed. Gan gydnabod hyn, mae ein tîm yn cymryd yr amser a’r gofal i ddeall arddulliau cyfathrebu unigryw pawb.

Nid dod o hyd i’r geiriau cywir yw’r peth pwysicaf bob amser. Dydy’r rhain gan bob un ohonom ni; a dydyn nhw ddim gan neb bob amser. Ond dwedwch neu dangoswch – sut bynnag rydych chi’n gyfforddus yn mynegi eich hun – bydd eich llais bob amser yn cael ei glywed yma.

5

Rhannu pŵer yn hafal

Os ydych chi’n tynnu ar ein cefnogaeth ni, chi a’ch cylch agos sydd yn y sefyllfa orau i ddweud wrthym beth sy’n mynd yn dda a beth allai fod yn well. Felly, gyda Choice, byddwch chi’n cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau pwysig ar sut mae eich gofal yn edrych.

Yn eich bywyd eich hun, mae hynny’n golygu arwain ar benderfyniadau fel prydau bwyd, amser hamdden, addurniadau’r cartref ac ymwelwyr. Yn fwy eang, mae eich adborth dyddiol yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni ar sut y gallwn barhau i wella ein cefnogaeth i bawb. Ac os yw rhannu eich barn yn rhywbeth rydych chi’n mwynhau ei wneud, efallai yr hoffech gael eich cyflogi fel un o’n Archwilwyr Ansawdd Arbenigol.

6

Cymunedau lle rydyn ni i gyd yn perthyn

Rydyn ni’n cael cymaint o foddhad o roi rhywbeth yn ôl i’n cymunedau lleol – sgiliau a ffrindiau newydd, mwy o hunan-werth ac ymdeimlad hanfodol o berthyn.

Dyna pam rydyn ni’n eich cefnogi i weithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymdogaethau.

Barod i siarad?

Cysylltwch â'n tîm heddiw – os oes gennych gwestiwn neu os hoffech wneud atgyfeiriad.